Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(6) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2011 Rhif (Cy. )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

1. Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau ynghylch cydgysylltu gofal a chynllunio gofal a thriniaeth i gleifion sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd (o fewn ystyr Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 (“y Mesur”)). Maent hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dynodi darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol, a darpariaethau trosiannol i gleifion sydd eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

2. Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer dynodi darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol o dan amgylchiadau lle mae claf yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd sy’n cael eu darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a chan awdurdod lleol.

3. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch y gofynion ynglŷn â chymhwystra y mae’n rhaid eu bodloni cyn i berson gael ei benodi’n gydgysylltydd gofal. Mae’r gofynion proffesiynol y mae’n rhaid i berson eu bodloni wedi’u nodi yn Atodlen 1.

4. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae ffurf cynllun gofal a thriniaeth wedi’i nodi yn Atodlen 2, ac mae i gael ei gwblhau yn Gymraeg neu’n Saesneg, neu yn rhannol yn Gymraeg ac yn rhannol yn Saesneg.

5. Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau y mae’n rhaid i’r cydgysylltydd gofal ymgynghori â nhw fel rhan o swyddogaethau’r cydgysylltydd gofal o baratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a’u diwygio. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch personau y caniateir i’r cydgysylltydd gofal ymgynghori â nhw, a darpariaeth i farn y claf gael ei chymryd i ystyriaeth cyn i unrhyw ymgynghori ddigwydd o dan y rheoliad hwn.

6. Mae rheoliad 7 yn darparu ar gyfer adolygu a diwygio cynlluniau gofal a thriniaeth. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ynghylch pa mor aml y mae’n rhaid i gynllun gael ei adolygu ac, os oes angen hynny, ei ddiwygio, a phwy sy’n cael gwneud cais am adolygiad ac, os oes angen hynny, am ddiwygiad.

7. Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch y personau y mae’n rhaid darparu copi iddyn nhw o gynllun gofal a thriniaeth claf ar ôl i’r cynllun hwnnw gael ei baratoi, ei adolygu neu ei ddiwygio. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ynghylch personau y caniateir darparu copïau o’r cynlluniau hyn iddyn nhw, i gopïau o gynlluniau gael eu cadw’n ôl neu i rannau yn unig o gynlluniau gael eu darparu, ac i farn y claf gael ei chymryd i ystyriaeth cyn i unrhyw gopïau  o gynlluniau neu o rannau o gynlluniau gael eu darparu.

8. Mae rheoliad 9 yn gwneud darpariaeth ynghylch sut mae copïau o gynlluniau gofal a thriniaeth i gael eu darparu, gan ganiatáu i gyfryngau electronig ac anelectronig gael eu defnyddio i’w darparu.

9. Mae rheoliad 10 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i’w darparu i unigolyn pan gaiff ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

10. Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth drosiannol i gleifion sydd eisoes mewn gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth i gleifion sydd heb gydgysylltydd gofal neu gynllun gofal a thriniaeth ar y dyddiad dod i rym.

11. Mae asesiad effaith rheoleiddiol wedi’i baratoi o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan y Tîm Deddfwriaeth Iechyd Meddwl, Yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 52(6) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2011 Rhif (Cy. )

IECHYD MEDDWL, CYMRU

Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011

Gwnaed                                                2011

Yn dod i rym                          6 Mehefin 2012

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 15(4), 18(1)(c), 18(8), 18(9), 47(1)(b), 47(2) a 52(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([1]).

Gosodwyd drafft o'r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 52(6) o’r Mesur, ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Rhan 1 - Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 6 Mehefin 2012.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau  hyn—

mae i “Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol cyfrifol” yr ystyr a roddir i  “responsible Local Social Services Authority” gan adran 34(3) o Ddeddf 1983;

mae i “awdurdod rheoli” o ran un o ysbytai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol  yr ystyr a roddir i “managing authority” gan baragraff 176 (ysbytai a’u hawdurdodau rheoli) o Atodlen A1 (preswylwyr ysbytai a chartrefi gofal: eu hamddifadu o’u rhyddid) i Ddeddf 2005, o ran ysbyty annibynnol mae iddo’r ystyr a roddir gan baragraff 177(b) (ysbytai a’u hawdurdodau rheoli)  o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, ac o ran cartref gofal mae iddo’r ystyr a roddir gan baragraff 179(b) (cartrefi  gofal a’u hawdurdodau rheoli)  o Atodlen A1 i Ddeddf 2005;

mae i “clinigydd cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible clinician” yn adran 34(1) (dehongli Rhan II) o Ddeddf 1983;

dynodir “corff goruchwylio” (“supervisory body”) o ran ysbyty gan baragraff 181 (cyrff goruchwylio: ysbytai) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, ac o ran cartref gofal gan baragraff 182 (cyrff goruchwylio: cartrefi gofal) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005;

ystyr “cyfnod rhyddhau perthnasol” (“relevant discharge period”) yw’r cyfnod y caniateir i oedolyn wneud cais ynddo am i asesiad iechyd meddwl gael ei gynnal yn sgil ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd([2]);

mae i “cyfrifioldeb rhiant” yr ystyr a roddir i “parental responsibility” gan adran 3 (ystyr “cyfrifoldeb rhiant”) o Ddeddf 1989;

ystyr “cynllun gofal a thriniaeth” (“care and treatment plan”) yw cynllun a baratoir er mwyn sicrhau’r canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i glaf perthnasol([3]) eu sicrhau, fel y darperir yn adran 18(1)(b) (swyddogaethau’r cydgysylltydd gofal) o’r Mesur;

ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol” (“relevant mental health service provider”) yw’r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd a ddynodir yn ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol yn unol ag adran 15 (dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol ar gyfer claf perthnasol) o’r Mesur neu reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn;

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Iechyd Meddwl 1983([4]);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989([5]);

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005([6]);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971([7]);

ystyr “gofalwr” (“carer”), o ran claf perthnasol, yw unigolyn sy’n darparu neu sy’n bwriadu darparu swm sylweddol o ofal yn rheolaidd i’r claf hwnnw, ond nid yw’n cynnwys unigolyn sy’n darparu, neu sy’n bwriadu darparu, gofal i’r claf hwnnw yn rhinwedd contract cyflogaeth neu gontract arall gydag unrhyw berson neu fel gwirfoddolwr i gorff (corfforedig ynteu anghorfforedig);

ystyr “gofalwr lleoliad oedolyn” (“adult placement carer”) yw person y darperir neu y caniateir darparu llety a gofal personol i oedolyn yn ei gartref o dan gytundeb lleoliad oedolyn a wnaed neu y bwriedir ei wneud gan y gofalwr;

ystyr “gwarcheidwad” (“guardian”) yw’r person a enwyd yn warcheidwad mewn cais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 (cais am warcheidiaeth) o Ddeddf 1983 neu mewn gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 (pwerau llysoedd i orchymyn derbyn i’r ysbyty neu i orchymyn gwarcheidiaeth) o Ddeddf 1983;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010([8]);  

ystyr “wedi’i gyflogi” (“employed”) yw wedi’i gyflogi o dan gontract gwasanaeth neu wedi’i gymryd ymlaen o dan gontract ynglŷn â gwasanaethau; ac

ystyr “ymarferydd meddygol claf perthnasol” (“relevant patient’s medical practitioner”), o ran claf perthnasol, yw’r ymarferydd meddygol cofrestredig y mae’r claf wedi’i gofrestru gydag ef ac unrhyw ymarferydd meddygol cofrestredig nad yw claf wedi’i gofrestru gydag ef ond y mae’r claf hwnnw wedi’i atgyfeirio ato i gael asesiad iechyd meddwl sylfaenol o dan Ran 1 (gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol) o’r Mesur.

Rhan 2 – Cydgysylltwyr gofal

Dynodi'r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol

3.(1)(1) Os oes Bwrdd Iechyd Lleol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd([9]) i glaf perthnasol a bod awdurdod lleol hefyd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaeth o’r fath, yna mae darpariaethau’r rheoliad hwn yn gymwys.

(2) Y Bwrdd Iechyd Lleol yw’r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol oni bai bod paragraffau (3) neu (4) yn gymwys.

(3) Awdurdod lleol yw’r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw’r claf hwnnw’n destun—

(a)     cais am warcheidiaeth a wnaed o dan  adran 7 o Ddeddf 1983; neu

(b)     gorchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983.

(4) Awdurdod lleol yw’r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol i glaf perthnasol os yw’r claf hwnnw o dan ddeunaw oed a hefyd—

(a)     yn derbyn gofal gan awdurdod lleol o fewn ystyr adran 22(1) (dyletswydd gyffredinol awdurdod lleol o ran plant sy’n derbyn gofal ganddynt) o Ddeddf 1989;

(b)     yn blentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A (yr awdurdod cyfrifol a phlant perthnasol) o Ddeddf 1989;

(c)     yn gymwys i gael cyngor a chymorth o dan adran 24(1A) (personau sy’n gymwys i gael cyngor neu gymorth) neu adran 24(1B) o Ddeddf 1989; neu

(ch) yn cael ei dderbyn i ysgol yn unol â datganiad       o anghenion addysgol arbennig a wneir o dan        adran 324 (datganiad o anghenion addysgol            arbennig) o Deddf Addysg 1996([10]) sy’n             enwi’r ysgol.

Gofynion cymhwystra i gydgysylltwyr gofal

4.(1)(1) Mae person yn gymwys i’w benodi’n gydgysylltydd gofal os yw’r person hwnnw—

(a)     yn cyflawni un neu ragor o’r gofynion proffesiynol yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn; a

(b)     wedi dangos er boddhad y darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol fod ganddo brofiad, sgiliau neu hyfforddiant priodol, neu gyfuniad priodol o brofiad, sgiliau a hyfforddiant.

(2) Wrth benderfynu a yw person yn bodloni’r gofyniad penodi ym mharagraff (1)(b) rhaid rhoi sylw i safonau mewn unrhyw Godau Ymarfer a ddyroddir o dan adran 44 (codau ymarfer) o’r Mesur, ac unrhyw ganllawiau a ddyroddir o dro i dro gan Weinidogion Cymru.

Rhan 3 – Cynlluniau gofal a thriniaeth

Ffurf a chynnwys cynlluniau gofal a thriniaeth

5.(1)(1) Rhaid i gydgysylltydd gofal sicrhau bod  cynllun gofal a thriniaeth sy’n cofnodi’r holl ganlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl eu sicrhau i glaf perthnasol yn cael ei gwblhau mewn ysgrifen ar y ffurf a nodir yn Atodlen 2.

(2) Rhaid i’r canlyniadau gynnwys cyflawniadau mewn o leiaf un o’r meysydd a ddarperir yn adran 18(1)(a) (swyddogaethau’r cydgysylltydd gofal) o’r Mesur (ond nid ydynt wedi’u cyfyngu i’r rhain).

Rhan 4 – Paratoi cynlluniau gofal a thriniaeth, eu hadolygu a’u diwygio

Personau i ymgynghori â hwy

6.(1)(1) Os oes rhaid i gydgysylltydd gofal claf perthnasol weithio gyda chlaf perthnasol a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl y claf hwnnw er mwyn—

(a)     cytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i’r claf hwnnw eu sicrhau fel y darperir gan adran 18(1)(a) o’r Mesur;

(b)     cytuno ar gynllun gofal a thriniaeth i’r claf hwnnw fel y darperir gan adran 18(1)(b) o’r Mesur; neu

(c)     adolygu a diwygio cynllun gofal a thriniaeth i’r claf hwnnw fel y darperir gan adran 18(1)(c) o’r Mesur,

yna mae darpariaethau’r rheoliad hwn yn gymwys.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae’r cydgysylltydd gofal i gymryd pob cam ymarferol i ymgynghori â’r personau a ganlyn pan fo’r personau hynny wedi’u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol—

(a)     yr holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y claf hwnnw;   

(b)     holl  ofalwyr a holl ofalwyr lleoliad oedolyn y claf hwnnw;

(c)     clinigydd cyfrifol y claf hwnnw;

(ch) pan fo gwarcheidwad wedi’i benodi i’r claf hwnnw o ganlyniad i gais am warcheidiaeth  a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983 neu orchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983, gwarcheidwad y claf hwnnw;

(d)     rhoddai atwrneiaeth arhosol y claf hwnnw a benodwyd yn unol ag adran 10 (penodi rhoddeion) o Ddeddf 2005, neu ddirprwy i’r claf hwnnw a benodwyd gan y Llys Gwarchod yn unol ag adran 16 (pwerau i wneud penderfyniadau ac i benodi dirprwyon: cyffredinol) o Ddeddf 2005, ar yr amod—

                           (i)    yn achos rhoddai, fod y materion sydd i’w hystyried wrth ymgynghori yn dod o fewn cwmpas yr atwrneiaeth arhosol, neu

                         (ii)    yn achos dirprwy, fod y materion sydd i’w hystyried wrth ymgynghori yn dod o fewn cwmpas y gorchymyn, y cyfarwyddiadau neu’r telerau ynglŷn â phenodi’r dirprwy a bennwyd gan y Llys Gwarchod;

(dd)            pan gynigirgweithredoedd neu benderfyniadau mewn perthynas â’r claf hwnnw o dan adrannau 37 (darparu triniaeth feddygol ddifrifol gan un o gyrff y GIG), 38 (darparu llety gan un o gyrff y GIG), 39 (darparu llety gan awdurdod lleol), 39A (person yn dod yn destun Atodlen A1),  39C (person heb gynrychiolydd tra bo’n destun Atodlen A1)  neu 39D (person sy’n destun Atodlen A1 heb gynrychiolaeth a delir) o Ddeddf 2005, Eiriolydd Galluedd Meddwl Annibynnol a benodwyd i gynrychioli’r claf hwnnw yn unol ag adran 35 (penodi eiriolwyr galluedd meddwl annibynnol) o’r Ddeddf honno;

(e)     pan fo’r claf hwnnw yn destun awdurdodiad safonol a roddwyd o dan Ran 4 (awdurdodiadau safonol) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli, y corff goruchwylio a chynrychiolydd y person perthnasol a benodwyd i’r claf hwnnw o dan baragraff 139 (corff goruchwylio i benodi cynrychiolydd) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005; ac

(f)      pan fo’r claf hwnnw yn destun awdurdodiad brys a roddwyd o dan Ran 5 (awdurdodiadau brys) o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli a’r corff goruchwylio.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo’r personau a ganlyn wedi’u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, caniateir i’r cydgysylltydd gofal ymgynghori â hwy—

(a)     unrhyw berson y mae’r cydgysylltydd gofal yn dymuno ymgynghori ag ef, er mwyn hwyluso cyflawni swyddogaethau’r cydgysylltydd gofal; a

(b)     unrhyw berson y mae’r claf hwnnw’n dymuno gweld ymgynghori ag ef mewn cysylltiad â sut mae’r cydgysylltydd gofal yn cyflawni ei swyddogaethau.

(4) Cyn ymgynghori ag unrhyw rai o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) mae’r cydgysylltydd gofal i gymryd i ystyriaeth farn y claf perthnasol ynghylch a ddylid ymgynghori â’r personau hynny.

(5) Ond mae’r cydgysylltydd gofal yn cael ymgynghori ag unrhyw rai o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) yn erbyn dymuniadau claf perthnasol ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i farn y claf hwnnw.

(6) Pan fo’n rhaid ymgynghori â’r un person yn rhinwedd mwy nag un swyddogaeth o dan baragraffau (2) a (3), un ymgynghoriad yn unig y mae angen ei gynnal.

(7) Os nad unigolyn yw’r person yr ymgynghorir ag ef, caniateir ymgynghori ag unigolyn sy’n gweithredu ar ran y person neu sydd wedi’i gyflogi ganddo.

Adolygu a diwygio cynlluniau gofal a thriniaeth

7.(1)(1) Caniateir i gynllun gofal a thriniaeth gael ei adolygu neu ei ddiwygio gan y cydgysylltydd gofal ar unrhyw adeg ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal yn cytuno â’r adolygiad hwnnw neu’r diwygiad hwnnw.

(2) Yn ddarostyngedig i reoliad 11, rhaid i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth ac, os oes angen hynny, ei ddiwygio—

(a)     pan fo cyfnod o ddim mwy na 12 mis calendr wedi mynd heibio ers i’r cynllun hwnnw gael ei baratoi gyntaf neu ei adolygu ddiwethaf;

(b)     pan fo claf perthnasol yn gofyn i’w gynllun gael ei adolygu cyn i’r cyfnod o 12 mis calendr fynd heibio;

(c)     pan fo gofalwr neu ofalwr lleoliad oedolyn claf perthnasol yn gofyn i gynllun y claf hwnnw gael ei adolygu cyn i’r cyfnod o 12 mis calendr fynd heibio; neu

(ch) pan fo darparydd gwasanaeth iechyd meddwl at ddibenion Rhan 2 (cydgysylltu a chynllunio gofal ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o’r Mesur([11]) yn gofyn i gynllun claf perthnasol gael ei adolygu.

(3) Ond nid oes angen i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth ar gais claf perthnasol, gofalwr y claf hwnnw neu ofalwr lleoliad oedolyn y claf hwnnw o dan yr amgylchiadau a ganlyn—

(a)     os yw’r cais yn ei farn ef yn wacsaw neu’n flinderus; neu

(b)     os nad oes newid amgylchiadau wedi bod yn ei farn ef sy’n teilyngu cynnal adolygiad arall cyn i’r cyfnod o 12 mis ym mharagraff (2)(a) fynd heibio.

(4) Ac eithrio’r gofyniad bod rhaid cael adolygiad ac, os oes angen hynny, diwygiad ar gynllun gofal a thriniaeth fel y darperir ym mharagraff (2)(a), nid oes angen i gydgysylltydd gofal adolygu cynllun gofal a thriniaeth o dan unrhyw ddarpariaeth yn y rheoliad hwn os oes angen mân ddiwygiadau i’r cynllun y mae’n briodol ym marn y cydgysylltydd gofal eu gwneud heb gynnal adolygiad.

Copïau o gynlluniau gofal a thriniaeth

8.(1)(1) Pan fo cydgysylltydd gofal claf perthnasol—

(a)     wedi cytuno ar gynllun gofal a thriniaeth i glaf perthnasol ac wedi cofnodi’r cynllun mewn ysgrifen fel y darperir gan adran 18(1) a (2) o’r Mesur;

(b)     wedi cofnodi’r cynllun neu’r cynlluniau a benderfynwyd o dan ddarpariaethau adran 18(4) neu (5) o’r Mesur mewn ysgrifen fel y darperir gan adran 18(6) o’r Mesur; neu

(c)     wedi adolygu neu wedi diwygio cynllun gofal a thriniaeth i glaf perthnasol fel y darperir gan reoliad 7 neu 11 o’r Rheoliadau,

yna mae darpariaethau’r rheoliad hwn yn gymwys.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo’r personau a ganlyn wedi’u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, mae’r cydgysylltydd gofal i gymryd pob cam ymarferol i sicrhau y darperir copi ysgrifenedig iddynt o gynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw—

(a)     y claf hwnnw, oni bai—

                           (i)    bod y claf hwnnw wedi gwrthod derbyn copi o’r cynllun; neu

                         (ii)    bod darparu copi o’r cynllun yn debyg o beri niwed difrifol i iechyd neu gyflwr corfforol neu feddyliol y claf hwnnw;

(b)     yr holl bersonau sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y claf hwnnw, oni bai bod person sydd â’r cyfrifoldeb hwnnw wedi gwrthod derbyn copi o’r cynllun;

(c)     holl ofalwyr a holl ofalwyr lleoliad oedolyn y claf hwnnw, oni bai bod gofalwr neu ofalwr lleoliad oedolyn wedi gwrthod derbyn copi o’r cynllun;

(ch)ymarferydd meddygol cofrestredig  y claf             hwnnw;

(d)     y darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl a’r sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu gwasanaethau iechyd meddwl i’r claf hwnnw;

(dd) clinigydd cyfrifol y claf hwnnw;

(e)     pan fo gwarcheidwad wedi’i benodi i’r claf hwnnw o ganlyniad i gais am warcheidiaeth a wnaed o dan adran 7 o Ddeddf 1983 neu orchymyn gwarcheidiaeth a wnaed o dan adran 37 o Ddeddf 1983—

                           (i)    gwarcheidwad y claf hwnnw, a

                         (ii)    Awdurdod Gwasanaethau Cymdeithasol Lleol cyfrifol y claf hwnnw;

(f)      rhoddai atwrneiaeth arhosol y claf hwnnw a benodwyd yn unol ag adran 10 o Ddeddf 2005, neu ddirprwy i’r claf hwnnw a benodwyd gan y Llys Gwarchod yn unol ag adran 16 o Ddeddf 2005, ar yr amod—

                           (i)    yn achos rhoddai, fod y materion y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy gan gynnwys canlyniadau (ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau) y cytunwyd arnynt yn unol ag adran 18(1)(a) o’r Mesur, yn dod o fewn cwmpas yr atwrneiaeth arhosol, neu

                         (ii)    yn achos dirprwy, fod y materion y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy gan gynnwys canlyniadau (ond heb fod yn gyfyngedig i ganlyniadau) y cytunwyd arnynt yn unol ag adran 18(1)(a) o’r Mesur, yn dod o fewn cwmpas y gorchymyn, y cyfarwyddiadau neu’r telerau ynglŷn â phenodi’r dirprwy a bennwyd gan y Llys Gwarchod;

(ff) os oes gweithredoedd neu benderfyniadau wedi’u cynnig mewn perthynas â’r claf hwnnw o dan adrannau 37, 38, 39, 39A, 39C neu 39D o Ddeddf 2005, Eiriolydd Galluedd Meddwl Annibynnol a benodwyd i gynrychioli’r claf hwnnw yn unol ag adran 35 o’r Ddeddf honno;

(g)     os yw’r claf hwnnw’n destun awdurdodiad safonol a roddwyd o dan Ran 4 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli, y corff gorchwylio a chynrychiolydd y person perthnasol a benodwyd i’r claf hwnnw o dan baragraff 139 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005; ac

(ng)os yw’r claf hwnnw yn destun awdurdodiad brys a roddwyd o dan Ran 5 o Atodlen A1 i Ddeddf 2005, yr awdurdod rheoli a’r corff goruchwylio.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo’r personau a ganlyn wedi’u dynodi mewn perthynas â chlaf perthnasol, caniateir darparu copi ysgrifenedig o gynllun gofal a thriniaeth y claf perthnasol hwnnw iddynt—

(a)     unrhyw berson y mae’r cydgysylltydd gofal yn dymuno iddo gael copi o’r cynllun, er mwyn hwyluso cyflawni’r canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl eu sicrhau i’r claf hwnnw; a

(b)     unrhyw berson y mae’r claf hwnnw’n dymuno i gopi o’r cynllun gael ei ddarparu iddo.

(4) Cyn darparu copïau o gynllun gofal a thriniaeth claf perthnasol i unrhyw rai o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) mae’r cydgysylltydd gofal i gymryd i ystyriaeth farn y claf hwnnw ynghylch a ddylid darparu copïau o’r fath i’r personau hynny.

(5) Ond mae’r cydgysylltydd gofal yn cael darparu copïau o gynllun y claf perthnasol i unrhyw rai o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (2) a (3)(a) yn erbyn dymuniadau’r claf hwnnw ar yr amod bod y cydgysylltydd gofal wedi rhoi ystyriaeth ddyladwy i farn y claf hwnnw.

(6) At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)     os oes copi o gynllun i’w ddarparu i berson, caiff y cydgysylltydd gofal gadw’r copi hwnnw yn ôl neu ddarparu copi o ran o’r cynllun hwnnw os yw’r cydgysylltydd gofal o’r farn ei bod er lles claf perthnasol gwneud hynny;

(b)     os yw person yn gymwys i gael mwy nag un copi o gynllun sy’n ymwneud â chlaf perthnasol, un copi yn unig o’r cynllun y mae angen ei ddarparu;

(c)     mae  person yn gymwys i gael copi o gynllun os yw’n gymwys o dan un neu fwy o’r categorïau ym mharagraff (2) ar yr adeg y mae copïau o’r cynllun i’w darparu o dan baragraff (1);

(ch) ni chaiff person y mae cynllun i’w ddarparu iddo wrthod derbyn cynllun oni bai bod darpariaeth ym mharagraff (2) yn caniatáu yn bendant iddo wneud hynny.

Traddodi copïau o gynlluniau gofal a thriniaeth

9.—(1) Mae unrhyw gopi o gynllun gofal a thriniaeth wedi’i ddarparu os yw—

(a)     wedi’i draddodi â llaw i berson;

(b)     wedi’i draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf person;

(c)     wedi’i anfon drwy’r post a dalwyd ymlaen llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf person;

(ch) wedi’i anfon drwy drosglwyddiad ffacsimili i rif a bennwyd gan berson; neu

(d)     wedi’i draddodi neu wedi’i anfon drwy unrhyw gyfrwng arall boed electronig neu fel arall y cytunwyd arno rhwng y cydgysylltydd gofal a pherson.

(2) Os nad unigolyn yw person, mae copi o gynllun wedi’i ddarparu os yw wedi’i draddodi neu wedi’i anfon i unigolyn sy’n gweithredu ar ran y person hwnnw neu sydd wedi’i gyflogi ganddo.

Rhan 5 - Rhyddhau

Gwybodaeth i bersonau sy’n peidio â bod yn gleifion perthnasol

10.—(1) Rhaid i’r wybodaeth a ganlyn gael ei darparu mewn ysgrifen i unigolyn wrth ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd—

(a)     y rheswm dros ryddhau’r unigolyn hwnnw o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd; a

(b)     y camau a all gael eu cymryd, a chan bwy, os yw’r unigolyn hwnnw o’r farn bod angen rhagor o gymorth a chyngor mewn perthynas â’i iechyd meddwl yn sgil ei ryddhau.

(2) Yn ychwanegol at yr wybodaeth ym mharagraff (1), rhaid i oedolyn gael gwybodaeth mewn ysgrifen am ei hawl i gael asesiad o dan Ran 3 (asesiadau ar ddefnyddwyr blaenorol o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd) o’r Mesur.

(3) Yn ychwanegol at yr wybodaeth ym mharagraff (1), pan fo unigolyn wedi’i ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd fel plentyn ond ei fod yn dod yn oedolyn yn ystod y cyfnod rhyddhau perthnasol rhaid i’r wybodaeth a ganlyn gael ei darparu mewn ysgrifen—

(a)     gwybodaeth am ei hawl wrth gyrraedd deunaw oed i gael asesiad o dan Ran 3 o’r Mesur;

(b)     esboniad ar sut mae ei ben-blwydd yn ddeunaw oed yn berthnasol at ddibenion hawl i gael asesiad o’r fath; ac

(c)     faint o’r cyfnod rhyddhau perthnasol sydd heb ddirwyn i ben ar ben-blwydd yr unigolyn yn ddeunaw oed.

(4) Caniateir i wybodaeth heblaw’r hyn y mae’n rhaid ei ddarparu yn unol â pharagraffau (1), (2) a (3) gael ei darparu i’r unigolyn wrth ei ryddhau o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd

(5) Pan fo Bwrdd Iechyd Lleol yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i’r Bwrdd ddarparu gwybodaeth i’r unigolyn hwnnw yn unol â pharagraffau (1), (2), (3) a (4) os nad oes awdurdod lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i’r unigolyn hwnnw.

(6) Pan fo awdurdod lleol yn rhyddhau unigolyn o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd, rhaid i’r awdurdod ddarparu gwybodaeth i’r unigolyn hwnnw yn unol â pharagraffau (1), (2), (3) a (4) os nad oes Bwrdd Iechyd Lleol, ar y dyddiad rhyddhau, yn darparu gwasanaeth iechyd meddwl eilaidd i’r unigolyn hwnnw.

Rhan 6 - Trosiannol

Darpariaethau trosiannol

11.—(1) Yn achos claf perthnasol nad oes cydgysylltydd gofal wedi’i benodi iddo ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i’r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol—

(a)     penodi cydgysylltydd gofal i’r claf hwnnw heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

(b)     sicrhau bod y cydgysylltydd a benodir yn bodloni’r gofynion cymhwystra i gydgysylltwyr gofal a nodir yn rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt; ac

(c)     os yw’r cydgysylltydd gofal wedi’i gyflogi gan berson arall, sicrhau bod cydsyniad y person arall i benodiad y cydgysylltydd gofal wedi’i gael yn unol ag adran 16(2) (darpariaeth bellach ynghylch penodi cydgysylltwyr gofal) o’r Mesur.

(2) Os oes cydgysylltydd gofal wedi’i benodi i glaf perthnasol ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym—

(a)     bernir bod y cydgysylltydd gofal wedi’i benodi’n gydgysylltydd gofal i’r claf hwnnw yn unol â rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, a chyfeirir ato fel “cydgysylltydd gofal tybiedig” at ddibenion y rheoliad hwn;

(b)     os yw’r cydgysylltydd gofal tybiedig wedi’i gyflogi gan berson arall heblaw darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf, rhaid i gydsyniad y person arall i benodiad y cydgysylltydd gofal tybiedig gael ei sicrhau gan y darparydd yn unol ag adran 16(2) o’r Mesur; ac

(c)     os na cheir cydsyniad y person sy’n gyflogwr i’r cydgysylltydd gofal tybiedig, rhaid i’r darparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol benodi cydgysylltydd gofal arall i’r claf hwnnw heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3) Os nad yw’r cydgysylltydd gofal tybiedig i glaf perthnasol yn bodloni’r gofynion cymhwystra i’w benodi’n gydgysylltydd gofal yn unol â rheoliad 4 o’r Rheoliadau hyn ac Atodlen 1 iddynt, rhaid i ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf benodi cydgysylltydd gofal i’r claf hwnnw sy’n bodloni’r gofynion cymhwystra heb fod yn fwy nag 1 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(4) Yn achos claf perthnasol sydd heb gynllun gofal a thriniaeth eisoes mewn bod ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i’r cydgysylltydd gofal—

(a)     gweithio gyda’r claf hwnnw a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf hwnnw gyda golwg ar gytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i’r claf hwnnw eu sicrhau, a pharatoi a chofnodi mewn ysgrifen gynllun gofal a thriniaeth i’r claf hwnnw yn unol â rheoliad 5 heb fod yn fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

(b)     ymgynghori â phersonau yn unol â rheoliad 6 fel rhan o broses cytuno ar ganlyniadau a pharatoi cynllun gofal a thriniaeth i’r claf hwnnw heb fod yn fwy na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

(c)     darparu copïau o gynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw yn unol â rheoliad 8 heb fod yn fwy na 10 diwrnod gwaith ar ôl i’r cynllun gael ei baratoi a’i gofnodi mewn ysgrifen; ac

(ch)adolygu cynllun gofal a thriniaeth y claf hwnnw heb fod yn fwy na 12 mis calendr ar ôl y dyddiad y cafodd y cynllun ei baratoi a’i gofnodi mewn ysgrifen.

(5) Os oes gan glaf perthnasol gynllun gofal a thriniaeth eisoes mewn bod ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, rhaid i’r cydgysylltydd gofal—

(a)     adolygu’r cynllun gofal a thriniaeth hwnnw sydd eisoes mewn bod heb fod yn fwy na 12 mis calendr ar ôl y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym;

(b)     fel rhan o’r adolygiad ar y cynllun gofal a thriniaeth hwnnw sydd eisoes mewn bod i’r claf hwnnw—

                           (i)    ymgynghori â phersonau yn unol â rheoliad 6,

                         (ii)    gweithio gyda’r claf hwnnw a darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl perthnasol y claf hwnnw gyda golwg ar gytuno ar y canlyniadau y bwriedir i ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl i’r claf hwnnw eu sicrhau, a pharatoi a chofnodi mewn ysgrifen gynllun gofal a thriniaeth (y “cynllun newydd”) yn unol â rheoliad 5; ac

(c)     darparu copïau o gynllun newydd y claf hwnnw fel y darperir yn rheoliad 8.

 

 

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

 

2011


                    ATODLEN 1 Rheoliad 4(1)(a)

GOFYNION PROFFESIYNOL

1. Y gofynion proffesiynol yw bod rhaid i berson fod—

(a)     yn weithiwr cymdeithasol cymwysedig a gofrestrwyd gyda Chyngor Gofal Cymru neu’r Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol;

(b)     yn nyrs lefel gyntaf neu’n nyrs ail lefel, a gofrestrwyd yn Is-Ran 1 neu Is-Ran 2 o’r gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001([12]), gan gynnwys cofnod sy’n dynodi mai nyrsio iechyd meddwl neu nyrsio anableddau dysgu yw ei maes ymarfer;

(c)     yn therapydd galwedigaethol sydd wedi’i gofrestru yn Rhan 6 o’r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001([13]);

(ch)yn seicolegydd ymarferol sydd wedi’i gofrestru yn Rhan 14 o’r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;

(d)     yn ymarferydd meddygol cofrestredig;

(dd) yn ddeietegydd sydd wedi’i gofrestru yn Rhan 4 o’r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001;

(e)     yn ffisiotherapydd sydd wedi’i gofrestru yn Rhan 9 o’r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001; neu

(f)      yn therapydd iaith a lleferydd sydd wedi’i gofrestru yn Rhan 12 o’r Gofrestr a gedwir o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001.

 


ATODLEN 2 Rheoliad 5(1)

Cynllun Gofal a Thriniaeth

Gall y cynllun hwn cael ei gwblhau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg, neu yn rhannol yn y Gymraeg ac yn rhannol yn y Saesneg

This plan may be completed in the Welsh or the English language, or partly in Welsh and partly in English

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 Adran 18 – Cynllun Gofal a Thriniaeth

Mae’r cynllun gofal a thriniaeth hwn wedi’i baratoi o dan adran 18 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, ac yn unol â’r gofynion yn Rheoliadau Iechyd Meddwl (Cydgysylltu Gofal a Chynllunio Gofal a Thriniaeth) (Cymru) 2011.

Dyma gynllun gofal a thriniaeth [Enw’r claf perthnasol] sy’n byw yn [Cyfeiriad arferol llawn y claf perthnasol].

Y cydgysylltydd gofal sydd wedi paratoi’r cynllun gofal a thriniaeth hwn yw [Enw’r cydgysylltydd gofal] ac mae modd cysylltu â’r cydgysylltydd gofal yn [Rhif ffôn, cyfeiriad post ac, os yw’n briodol, cyfeiriad e-bost y cydgysylltydd gofal]. Mae’r cydgysylltydd gofal wedi cael ei benodi gan [Enw’r Bwrdd Iechyd Lleol neu’r Awdurdod Lleol a benododd y cydgysylltydd gofal] ac mae’n gweithredu ar eu rhan.

Cafodd y cynllun hwn ei wneud ar [Y dyddiad y cafodd y cynllun ei wneud] ac mae i’w adolygu erbyn [Y dyddiad y mae’n rhaid adolygu’r cynllun] fan bellaf. Er hynny, caiff [Enw’r claf perthnasol], neu’r gofalwr/gofalwyr neu’r gofalwr/gofalwyr lleoliad oedolyn sydd ganddo/ganddi ofyn i’r cynllun gofal hwn gael ei adolygu unrhyw bryd. 

Mae’r rhan hon o’r cynllun gofal a thriniaeth yn cofnodi’r canlyniadau y mae’r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl wedi’i bwriadu i’w sicrhau, manylion y gwasanaethau hynny sydd i gael eu darparu, a’r camau sydd i’w cymryd er mwyn sicrhau’r canlyniadau hynny.

[Rhaid i’r canlyniad(au) arfaethedig a gynhwysir yn y rhan ganlynol o’r cynllun ymwneud ag un neu fwy o’r meysydd sydd wedi’u rhestru, a chynnwys esboniad ar sut mae pob canlyniad yn ymwneud â phob maes. Gall canlyniadau gael eu sicrhau mewn meysydd eraill hefyd, a rhaid iddynt gymryd i ystyriaeth unrhyw risgiau sydd wedi’u nodi ar gyfer y claf perthnasol.

Mae’r rhan hon o’r cynllun hefyd yn nodi manylion y gwasanaethau sydd i’w darparu, neu’r camau sydd i’w cymryd, i sicrhau’r canlyniadau arfaethedig, gan gynnwys pa bryd a chan bwy y mae’r gwasanaethau hynny i’w darparu neu y mae’r camau hynny i’w cymryd.

[Rhaid cytuno ar ganlyniadau i’w sicrhau ar gyfer o leiaf un o’r meysydd a ganlyn:

a) llety

b) addysg a hyfforddiant         

c) cyllid ac arian

ch) triniaeth feddygol a mathau eraill o driniaeth, gan gynnwys ymyriadau seicolegol

d) perthnasau rhianta neu ofalu

dd) gofal personol a llesiant corfforol 

e) cymdeithasol, diwylliannol neu ysbrydol 

f) gwaith a galwedigaeth.

Gall canlyniadau i’w sicrhau gael eu cytuno hefyd ar gyfer meysydd eraill]

·         Y canlyniad sydd i’w sicrhau

·         Pa wasanaethau sydd i’w darparu, neu pa gamau sydd i’w cymryd

·         Pa bryd

·          Gan bwy

Gall y meddyliau, y teimladau neu’r ymddygiadau a ganlyn ddangos bod [Enw’r claf perthnasol] yn mynd yn fwy sâl a bod angen cymorth ychwanegol oddi wrth y tîm gofal (mae’r rhain weithiau’n cael eu galw’n arwyddion o bwl pellach):

Os bydd [Enw’r claf perthnasol] yn teimlo bod ei iechyd meddwl neu ei hiechyd meddwl yn gwaethygu nes cyrraedd pwynt lle mae angen cymorth neu gefnogaeth ychwanegol, dylai’r camau a ganlyn gael eu cymryd (mae hyn weithiau’n cael ei alw’n gynllun argyfwng a rhaid iddo gynnwys manylion y gwasanaethau i gysylltu â nhw):

Dylai unrhyw ofynion neu ddymuniadau sydd gan [Enw’r claf perthnasol] o ran iaith neu gyfathrebu (gan gynnwys defnyddio’r Gymraeg) gael eu cofnodi yma:

Dyma farn [Enw’r claf perthnasol] am y cynllun gofal a thriniaeth hwn, y gwasanaethau iechyd meddwl sydd i’w darparu, ac unrhyw drefniadau at y dyfodol a ddylai gael eu hystyried:

[Cofnodwch unrhyw farn y mae’r claf perthnasol yn dymuno’i chynnwys (gan gynnwys dymuniadau a theimladau yn y gorffennol a’r presennol ynghylch y materion sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun), gan gynnwys unrhyw osodiadau am unrhyw drefniadau at y dyfodol a allai fod yn gymwys. Os nad oes gan y claf farn neu osodiadau ar y materion hyn, neu os nad oes modd sicrhau barn y claf, dylai hynny gael ei gofnodi hefyd.]

Mae’r cynllun gofal a thriniaeth hwn

* wedi’i gytuno gyda [Enw’r claf perthnasol] ac mae wedi’i gofnodi yn unol ag adran 18(2) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

* heb gael ei gytuno gyda [Enw’r claf perthnasol] ond mae’r canlyniadau wedi’u penderfynu gan y darparydd/darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl, ac maent wedi’u cofnodi yn unol ag adran 18(6) o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

[* dileer fel y bo’n gymwys (rhaid defnyddio un, ond nid mwy nag un, o’r gosodiadau)]

Cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid i’r darparydd/darparwyr gwasanaeth iechyd meddwl a ganlyn sicrhau bod y gwasanaethau iechyd meddwl a nodwyd yn y cynllun gofal a thriniaeth hwn yn cael eu darparu: [Rowch enw’r Bwrdd Iechyd Lleol a/neu’r Awdurdod Lleol sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd i’r claf perthnasol]

Llofnod [Mae’r claf perthnasol yn cael llofnodi’r cynllun gofal a thriniaeth, os yw’n dymuno] Y claf perthnasol

Llofnod [Rhaid i’r cydgysylltydd gofal lofnodi’r cynllun gofal a thriniaeth hwn] Y cydgysylltydd gofal

Dyddiad [Rhowch y dyddiad y mae’r cynllun gofal a thriniaeth yn cael ei wneud]

 

 



([1])           2010 mccc 7.

([2])           Gweler rheoliad 3 (cyfnod rhyddhau perthnasol) o Reoliadau Iechyd Meddwl (Asesu Defnyddwyr Blaenorol o Wasanaethau Iechyd Meddwl Eilaidd) (Cymru) 2011 (O.S. 2011/2500 (Cy.272)).

([3])           Gweler adran 12 (ystyr “claf perthnasol”) o’r Mesur i gael y diffinaid o glaf perthnasol.

([4])           1983 p.20.

([5])           1989 p.41.

([6])           2005 p.9.

([7] )          1971 p.80.

([8])           2010 mccc 7.

([9])           Gweler adran 49 o’r Mesur (ystyr gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd) i gael y diffiniad o wasanaethau iechyd meddwl eilaidd.

([10])         1996 p. 56.

([11])         Gweler adran 13 (ystyr “darparydd gwasanaeth iechyd meddwl”) o’r Mesur i gael y diffiniad o ddarparydd gwasanaeth iechyd meddwl at ddibenion Rhan 2.

([12])         O.S. 2002/253.

([13])         O.S. 2002/254.